Abertawe 2-1 West Bromwich Albion

Fe wnaeth Abertawe drechu West Bromwich Albion ar ddiwrnod olaf y tymor ddydd Sul wrth i dymor anodd orffen ar nodyn cadarnhaol i’r Elyrch.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Jonny Evans sgorio gyda pheniad o groesiad Darren Fletcher.

Ond roedd yr Elyrch yn gyfartal wedi 72 munud wrth i’r ymosodwr Jordan Ayew sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb ers ymuno o Aston Villa ym mis Ionawr.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda phum munud yn weddill, wrth i Fernando Llorente sgorio foli yn dilyn gwaith da gan Luciano Narsingh.

Er y tymor anodd i Abertawe, mae’r fuddugoliaeth yn golygu eu bod yn gorffen yn y 15fed safle yn yr Uwchgynghrair.

Latest Stories, Video, and Commentary about Swansea City | BBC

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close